Dychwelwch i'r dudalen adref Dychwelwch i'r dudalen adref
Danfonwch E-Bost atom
Cefnogaeth Ar Lein Telemat Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr Gwrandewch arnom yn Trydar
Cefnogaeth Technegol
Diogelwch TG
Bandeang
Meddalwedd a caledwedd

ISADEILADEDD TG

Mae Isadeiladded TG wedi esblygu yn y blynyddoedd diweddar i gynnwys llawer mwy na chyfrifiaduron ac ategolion. Mae Telemat yn cydweithio'n agos gyda chyflenwyr dethol er mwyn cynnig technoleg i'n cwsmeriaid sydd ddim yn unig yn flaengar, ond yn ymarferol ac yn cynyddu gweithgarwch

Rydym yn medru cyflenwi cyfrifiaduron, argraffwyr ac offer arall wrth wneuthurwyr adnabyddus. Rydym hefyd yn medru cynnig systemau a nifer o wasanaethau arbenigol sydd yn gallu helpu busnesau bach i weithredu'n effeithlon a thorri costau.

Rydym yn bartneriaid busnes bach Cisco, yn arbenigo mewn systemau teleffon. Yn ogystal â hyn rydym yn bartneriaid Meraki, sydd yn ein galluogi i gynnig system effeithiol tu hwnt ar gyfer rhoi rhwydweithiau diwifr i mewn i'r sector dwristiaeth. Ymhlith ein partneriaid diogelu rhwydwaith mae SonicWALL, rydym yn medru cyflenwi a gosod eu hystod o furiau cadarn a systemau mynegiant rhwydwaith.

Mae Telemat hefyd yn medru cefnogi'r systemau TG yma gyda thechnegwyr sydd wedi eu cydnabod gan y gwneuthurwyr, Mae gennym arbenigwyr Microsoft, Apple, SonicWALL, Teleffonau Cisco a system diwifr Meraki sydd oll wedi eu hadnabod gan gymwysterau sydd wedi eu cefnogi gan y cwmnïoedd.

Os oes yna unrhyw isadeiladedd TG yr ydych ei angen sydd ddim wedi cael ei drafod yma, cysylltwch gyda ni a byddwn yn medru eich helpu a'ch cynghori i gael yr ateb gorau ar gyfer eich anghenion.